About Us

Amdanom Ni

Mae Cofnod yn un o bedair Canolfan Gofnodion Leol (CGL) yng Nghymru ac mae'n ffurfio rhan o'r rhwydwaith cenedlaethol cyntaf o CGLau yn y DG. Dewiswyd ein henw er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd arsylwi a chofnodi bywyd gwyllt, a chreu 'cofnod' yw'r man cychwyn ar gyfer y holl ddata sydd gennym. Ein tasg yw dwyn at ei gilydd yr holl gofnodion unigol hyn mewn un bas data canolog fel bod gennym well gwybodaeth am yr amgylchedd rydym yn byw ynddo. Ein nodau yw darparu:

  • gwybodaeth o safon am fioamrywiaeth a geoamrywiaeth
  • cefnogaeth i'r rhai sy'n cofnodi bywyd gwyllt ac i weithwyr amgylcheddol proffesiynol
  • mecanweithiau ar gyfer bwydo gwybodaeth i mewn i'r broses o wneud penderfyniadau

Gellir cael hyd i ddogfennau pellach yn ymwneud â Cofnod, yn cynnwys ein polisïau, yn y Llyfrgell.

Ein Hardal

O'n swyddfa ym Mangor, mae ein hardal o ddiddordeb yn ymestyn ar draws siroedd Gogledd Cymru gyfan ac yn cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri. Mae hon yn ardal fawr ac amrywiol yn ddaearyddol (6342 km²) gyda'r nifer fwyaf o safleoedd dan warchodaeth (312 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ledled 1263 km²) o holl ranbarthau CCLl Cymru. Mae ein rhanbarth yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd lled-naturiol, o ucheldiroedd (yn cynnwys copaon Eryri) i arfordiroedd (mwy na 600 km o arfordir), glaswelltiroedd, coetiroedd, rhostiroedd, gwlybdiroedd a dwr croyw. Mae nifer o'r cynefinoedd, a'r rhywogaethau maent yn rhoi cartref iddynt, o arwyddocâd cenedlaethol. Mae ein rhanbarth hefyd yn cefnogi amrywiaeth eang o rhinweddau daearegol gyda chymhlethdodau daearyddol sy'n enwog yn rhyngwladol, yn arbennig Gogledd Orllewin Cymru.

Y Data Sydd Gennym

Gyda chefnogaeth sefydliadau, grwpiau a chofnodwyr unigol, mae Cofnod yn dwyn at ei gilydd yr amrywiaeth ehangaf a'r nifer mwyaf o ddata am fioamrywiaeth a geoamrywiaeth yng Ngogledd Cymru. Mae'r data hwn i gyd wedi cael ei rannu'n rhydd gyda ni ac rydym yn defnyddio safonau ansawdd llym er mwyn sicrhau bod y data sydd gennym yn addas i'w ddefnyddio. Er bod ein ffocws ar rywogaethau a chynefinoedd ar y tir yn bennaf, rydym hefyd yn derbyn data am yr amgylchedd morol a byddwn yn ei drosglwyddo i'r archif mwyaf priodol ar gyfer data morol.

Partneriaeth

Mae Cofnod yn sefydliad nad yw'n gwneud elw ac mae'r rhan fwyaf o'n costau rhedeg yn cael eu talu gan ein partneriaid cefnogol. Ers mis Ebrill 2007, rydym wedi bod yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i bartneriaid cefnogol, sefydliadau masnachol a chofnodwyr gwirfoddol. Ceir manylion pellach am y gwasanaethau rydym yn eu darparu yn ein tudalen Gwasanaeth Ymholiadau.

Ein partneriaid cefnogol cyfredol yw...

Cyngor Bwrdeistref Sirol ConwyDenbighshire County CouncilCyngor Sir y FflintCyngor GwyneddCyfoeth Naturiol CymruAsiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth CymruParc Cenedlaethol EryriLlywodraeth Cymru

Pwy Rydym Ni

Staff

Roy Tapping (Rheolwr)Open
Aisling May (Rheolwraig Data)Open
Tim May (Swyddog y Systemau Gwybodaeth)Open
Sarka TimarovaOpen
Cathy Wuster (Arbenigwr Data Ymgynghoriaeth)Open
Catharine Moss (Swyddog Data)Open
Jennifer Vidal (Swyddog Data)Open
Richard Gallon (Swyddog Ymholiadau)Open

Cyfarwyddwyr

David G. Hill
Barbara Owsianka
Lesley Rider
Ian M Spence
Delyth Williams
Michael Willis
Cofnod Staff