Cyflwyno Cofnodion
Ma cyflwyno cofnodion am rywogaethau'n hawdd! Fodd bynnag, bydd raid i chi benderfynu o blith y dewisiadau isod sut ydych am wneud hyn. Gall y dull fyddwch yn ei ddewis ddibynnu ar nifer ac amrywiaeth y cofnodion o rywogaethau, a pha mor aml ydych yn dymuno cyflwyno cofnodion. Anfonwch e-bost atom os ydych yn ansicr ynghylch pa ddull i'w ddefnyddio neu os ydych angen cyngor pellach ynghylch cyflwyno cofnodion.
Cyn cyflwyno eich cofnodion, dylech fod yn ymwybodol bod raid iddynt gynnwys yr elfennau a ganlyn:
- Beth wnaethoch chi ei weld? Defnyddiwch yr enw cyffredin naill ai yn Saesneg neu yn y Gymraeg, neu'r enw Gwyddonol.
- Ble wnaethoch chi ei weld? Dylech gynnwys cyfeirnod grid (6 ffigwr o leiaf) ac, os oes modd, enw lleoliad, e.e. SH123456, Fferm Pant Glas.
- Pryd wnaethoch chi ei weld? Yn ddelfrydol, dylai hwn fod yr union ddyddiad, fodd bynnag, mae'r mis, y flwyddyn neu amrediad dyddiad yn dderbyniol hefyd.
- Pwy welodd o? Nodwch enw llawn y person a welodd y rhywogaeth.
Gall gwybodaeth arall, fel nifer yr unigolion a welwyd, eu rhyw etc. fod yn ddefnyddiol hefyd. I helpu gyda rhoi cyfeirnod grid priodol i'ch cofnodion a defnyddio enw priodol y rhywogaethau, defnyddiwch y map rhyngweithiol (yn cynnwys chwilio drwy god post ac enw lle) a geiriadur y rhywogaethau, sydd ar gael wrth i chi gofrestru gyda'n System Gofnodi Ar-Lein (ORS).
Bydd y data a gyflwynir i Cofnod yn cael ei wirio cyn cael ei roi yn ein prif fas data. Dim ond at ddibenion cadwriaethol fydd y data'n cael ei ddefnyddio, yn unol â'r polisïau sydd ar gael o'n Llyfrgell.